Cam 2 META
Profion môr go iawn hygyrch, heb gysylltiad â’r grid
Safleoedd ar gael yn 2020!
Safleoedd ar gael yn 2020!
Y SAFLEOEDD PROFI
Mae Cam 2 META yn cynnig safleoedd ar gyfer profion môr go iawn hygyrch, heb gysylltiad â’r grid. Lleolir y safleoedd o fewn neu’n gyfagos i Ddyfrffordd Aberdaugleddau gan alluogi dysgu gwersi yn gyflym ac yn rhad.
Mae META yn darparu carreg gamu o brofi tanciau i brosiectau masnachol, gan gefnogi uchelgeisiau i’r DU barhau i chwarae rhan flaenllaw fyd-eang mewn ynni adnewyddadwy morol.

Warrior Way
Safle Prawf Llanw

Dale Roads
Safle Prawf Tonnau

East Pickard Bay
Safle Prawf Tonnau a Gwynt
CADARNHEWCH EICH LLE
RYDYM YN ANELU AT AGOR Y SAFLEOEDD HYN YN 2020!
Mae safleoedd profion gweithredol META yn dal i gael eu datblygu ac mae’r cydsyniadau a’r trwyddedau priodol yn cael eu dilyn ar hyn o bryd.

CEFNOGAETH A CHYFLEUSTERAU
Mae gan Sir Benfro gadwyn gyflenwi ynni amrywiol sy’n arbenigo mewn ynni morol, petrocemegion, nwy naturiol hylifedig, gweithgynhyrchu a gweithrediadau morol.
Chwilio am safle profi?
Os oes gennych chi brosiect ynni morol yr ydych chi’n edrych i’w brofi, cysylltwch â ni.