Ynglŷn â META
Ein safleoedd profi yng Nghymru
Ein Cenhadaeth
Lleihau’r amser, y gost a’r risgiau y mae datblygwyr ynni morol yn eu hwynebu er mwyn cyflymu twf yn y sector, wrth ategu’r rhwydwaith canolfannau profi presennol sy’n bodoli ledled y DU gan gynnwys dau Barth Arddangos Cymru.
Pam Cymru?
Mae Cymru yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer datblygwyr ynni morol gyda’i hadnodd tonnau rhagorol, ceryntau llanw cryf, cadwyn gyflenwi brofiadol, cyfleusterau porthladdoedd a chysylltiad grid.


Ein Safleoedd Profi
Gydag wyth safle a gydsyniwyd ymlaen llaw wedi’u lleoli yn ac o amgylch Dyfrffordd Aberdaugleddau, nod META yw dad-risgio datblygiad prosiectau ynni morol trwy roi’r cyfle i brofi dyfeisiau, is-osodiadau a chydrannau. Mae’r safleoedd yn hygyrch ond yn dal i gynrychioli amgylcheddau môr go iawn. Nid yw META wedi’i gysylltu â’r grid ac felly mae’n ddelfrydol ar gyfer datblygwyr cam cynnar, ac mae hefyd yn ganolfan berffaith ar gyfer ymchwil ac arloesi.
BETH SY'N EIN GYRRU
Newid Hinsawdd
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050.
Datblygiad Economaidd
22,600 o swyddi yn y diwydiant ynni morol ledled y DU erbyn 2040.
Cymunedau Arfordirol
Disgwylir i 50-60% o’r buddion economaidd a grëir gan ynni morol gael eu gweld mewn ardaloedd gwledig, arfordirol.
Data morol byw
Mae gennym ystod o ddata morol a llanw byw ar gael o sawl ffynhonnell yn ein hardaloedd profi.
RHEOLIR GAN YNNI MOROL CYMRU
Rheolir META gan Ynni Morol Cymru, y corff diwydiant cenedlaethol ar gyfer Cymru ac fe’i gweinyddir gan Fforwm Arfordir Sir Benfro, Cwmni Budd Cymunedol sy’n gweithio i amddiffyn a gwella arfordir Sir Benfro.
Chwilio am safle profi?
Os oes gennych chi brosiect ynni morol yr ydych chi’n edrych i’w brofi, cysylltwch â ni.