Mae’n bleser gan Ynni Morol Cymru gyhoeddi eu bod wedi derbyn cyllid gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir ar gyfer eu prosiect Ardal Profi Ynni Morol (META).
Nod y prosiect yw creu ardaloedd profi a gydsyniwyd ymlaen llaw yn Nyfrffordd Aberdaugleddau i ddatblygwyr technoleg ddefnyddio dyfeisiau nad ydynt yn gysylltiedig â’r grid, cydrannau profi a thechnegau lleoli, ynghyd â rhoi cyfle i ymchwilio.
Mae Ynni Morol Cymru yn gweithio ar flaen y gad yn y diwydiant, gan ddenu datblygwyr ynni morol i Gymru a chefnogi twf y sector. Disgwylir i META ychwanegu at gynnig ‘Cymru’, ochr yn ochr â’r €100.4 miliwn o gyllid yr UE, adnoddau tonnau a llanw sylweddol a Pharthau Arddangos graddfa arae. Bydd META yn darparu mwy o gyfleoedd i uwchsgilio ac arallgyfeirio’r gadwyn gyflenwi leol, a bydd yn cyfrannu at ddadrisgio datblygiadau prosiect.

Mae Ynni Morol Cymru yn fenter a ddatblygwyd ac a reolir gan Fforwm Arfordir Sir Benfro, Cwmni Budd Cymunedol sy’n gweithio i amddiffyn a gwella’r amgylchedd arfordirol a morol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Dywedodd Louise Rigby Williams, Rheolwr Prosiect Ynni Morol Cymru, “Rydym yn falch iawn y bydd y cyllid hwn yn caniatáu inni barhau i chwarae rhan allweddol yn uchelgeisiau Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni morol. Bydd META yn darparu cymhelliant arall eto i ddatblygwyr ddod â’u prosiectau i Gymru a bydd yn cefnogi ein heconomïau ymylol trwy greu swyddi, annog arloesi, a chlystyru ac arallgyfeirio ein cadwyn gyflenwi leol.”
Mae META yn un piler o Ardal Forol Doc Penfro, prosiect gwerth £76 miliwn a lofnodwyd fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ym mis Mawrth sy’n anelu at ddatblygu canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer datblygu ynni morol. Defnyddir y Cyllid Cymunedau’r Arfordir hwn i greu un swydd amser llawn newydd gydag Ynni Morol Cymru ac 80 o swyddi anuniongyrchol, yn ogystal â diogelu pedair swydd bresennol.

Dywedodd Tim James, Cyfarwyddwr Datblygu Ynni ym Mhorthladd Aberdaugleddau “Mae datblygwyr technoleg ac arbenigwyr gweithrediadau morol eisoes yn lleoli eu hunain yn y rhanbarth i fanteisio ar y sylfaen sgiliau helaeth, cyfleusterau porthladdoedd, agosrwydd at y grid ac adnoddau naturiol. Bydd creu ardal a gydsyniwyd ymlaen llaw yn y Ddyfrffordd yn cryfhau cynnig byd-eang Doc Penfro yn y sector arloesol hwn ymhellach.”
Ar hyn o bryd mae Ynni Morol Cymru yn aros am arian ychwanegol a fydd yn cwblhau cyllido’r prosiect. Bydd y camau nesaf yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol i gynorthwyo i nodi’r ardaloedd a’r prydlesu a’r trwyddedu angenrheidiol.
Dadlwythwch y datganiad i’r wasg yma.
