Mae Ynni Morol Cymru yn datblygu prosiect Ardal Profi Ynni Morol (META) yn ac o amgylch Dyfrffordd Aberdaugleddau.

Cynigir safleoedd ar gyfer profi dyfeisiau tonnau a llanw, ynghyd ag offer ynni morol eraill, ger Porthladd Penfro, Warrior Way, Dale ac i’r gogledd o Freshwater West.

Cynhelir ail rownd o arddangosfeydd cyhoeddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar y prosiect yn 2019. Bydd aelodau o dîm datblygu META yn bresennol i ateb cwestiynau, ynghyd â Bombora, datblygwr ynni tonnau Doc Penfro. Os oes gennych ddiddordeb yn Nyfrffordd Aberdaugleddau a’r ardaloedd cyfagos, neu mewn ynni adnewyddadwy morol, rydym yn eich annog i fynychu un o’n digwyddiadau galw heibio i ddarganfod mwy am y prosiect.