Mae Ynni Morol Cymru yn datblygu prosiect Ardal Profi Ynni Morol (META) yn ac o amgylch Dyfrffordd Aberdaugleddau.

Cynigir safleoedd ar gyfer profi dyfeisiau tonnau a llanw, ynghyd ag offer ynni morol eraill, ger Porthladd Penfro, Warrior Way, Dale ac i’r gogledd o Freshwater West.

Yn y cyfnod cynnar hwn, gwahoddir aelodau’r gymuned i ddod i arddangosfa gyhoeddus i drafod ein cynnig a siapio ein prosiect. Os oes gennych ddiddordeb yn Nyfrffordd Aberdaugleddau a’r ardaloedd cyfagos, neu mewn ynni adnewyddadwy morol, rydym yn eich annog i fynychu un o’n digwyddiadau galw heibio i ddarganfod mwy am y prosiect. Mae’r rhain yn cael eu cynnal 3-7pm:

Er mwyn mesur niferoedd a diddordeb, cofrestrwch eich diddordeb i fynychu gan ddefnyddio Eventbrite.

Os na allwch ddod i ddigwyddiad ond yr hoffech ddarganfod mwy, cysylltwch â ni.

Y SAFLEOEDD ARFAETHEDIG

Dewiswyd y safleoedd arfaethedig a ddangosir ar y map isod gan eu bod yn hygyrch, ond eto’n cynrychioli amgylcheddau môr go iawn. Y nod yw ei gwneud hi’n haws profi offer ynni morol i sicrhau ei fod yn gweithio yn ôl y disgwyl.

Mae’r safleoedd ar gyfer profion yn unig ac felly ni fyddant yn gysylltiedig â’r Grid Cenedlaethol, a bydd dyfeisiau yn y dŵr am rhwng 1 a 12 mis ar y mwyaf.