Mae Ynni Morol Cymru wedi cyflwyno adroddiad cwmpasu amgylcheddol i Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) a rhanddeiliaid perthnasol, gan ofyn am eu barn cwmpasu ar gyfer datblygu prosiect Ardal Profi Ynni Morol (META) yn ac o amgylch Dyfrffordd Aberdaugleddau.
Bydd META yn gweld cyfres o fannau a gydsyniwyd ymlaen llaw, heb gysylltiad â’r grid, sy’n addas ar gyfer ystod o brofion cydrannau, is-osodiad a dyfeisiau ynni morol. Mae’r adroddiad cwmpasu yn ystyried cymysgedd o brofion ynni tonnau a llanw ac yn gofyn am farn ffurfiol ar ba faterion y dylid eu cynnwys mewn Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA). Mae’r adroddiad hwn yn cynrychioli’r cam sylweddol nesaf wrth ddod â META yn realiti ar ôl i astudiaethau dewis safleoedd ac ymarferoldeb ddechrau yn 2017.
Mae META yn anelu at fod yn agored i fusnes mor gynnar â’r flwyddyn nesaf gyda gweithgareddau penodol yn cael eu lletya ar y cyd â Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y Farn Cwmpasu yn penderfynu pa faterion allweddol y dylai’r AEA fynd i’r afael â nhw a pha arolygon amgylcheddol y mae’n rhaid eu cynnal i alluogi gweithrediadau a lleoli dyfeisiau ar raddfa lawn yn 2020.
Dywedodd Joseph Kidd, Rheolwr Gweithrediadau META “Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen i META ac ynni morol yng Nghymru. Bydd META yn llenwi’r bwlch ar gyfer profi ynni morol cam cynnar yn y DU ac, ynghyd â’r Prosiect Morol Doc Penfro gwerth £76 miliwn, bydd yn gosod Sir Benfro a Chymru ar y prif lwyfan ar gyfer y farchnad fyd-eang hon sy’n dod i’r amlwg. Gyda chefnogaeth barhaus, gallai ynni morol chwarae rhan bwysig wrth gyflawni strategaeth ddiwydiannol lân i Gymru”.
Cefnogir y prosiect £1.9 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chronfa Cymunedau’r Arfordir.