Ynni Morol Cymru a RPS

Mae Ynni Morol Cymru wedi penodi RPS i ddarparu cefnogaeth amgylcheddol i’r prosiect Ardal Profi Ynni Morol (META) yn Nyfrffordd Aberdaugleddau.

Bydd META yn creu cyfres o fannau cydsynio ymlaen llaw, heb gysylltiad â’r grid, sy’n addas ar gyfer ystod o brofion cydrannau, is-osodiad a dyfeisiau ynni morol. Nod y prosiect £1.9 miliwn, sy’n cael ei gefnogi gan gronfeydd Llywodraeth yr UE a Chymru ynghyd â Cronfa Cymunedau’r Arfordir a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yw darparu cyfleuster profi mynediad hawdd i ddatblygwyr dyfeisiau cam cynnar i ddadrisgio lleoli a gyrru yn y dyfodol a gostwng cost ynni.

Bydd RPS yn rheoli’r Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA) a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) ar gyfer y prosiect yn ogystal â chefnogi tîm Ynni Morol Cymru i gynnal gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Mae gan RPS wybodaeth helaeth o Ddyfrffordd Aberdaugleddau trwy eu profiad blaenorol o ddarparu gwasanaethau ymgynghori ar gyfer prosiectau masnachol (e.e. Nwy Naturiol Hylif South Hook (LNG)), Gwres a Phwer Cyfun South Hook (CHP), Gorsaf Bŵer Penfro, SemLogistics), yn ogystal â phrofiad yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Strategol Ynni Adnewyddadwy Morol (MRESF). Mae gan dîm prosiect RPS hefyd brofiad o gynghori ar brosiect EMEC yn yr Alban a fydd o gymorth mawr ym mhroses gydsynio META.

Mae META yn un o bileri menter Ardal Forol Doc Penfro, sy’n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ehangach a’i nod yw datblygu canolfan fyd-eang ar gyfer datblygu, saernïo a phrofi ynni morol. Yn ogystal â chefnogi META, mae RPS hefyd yn gweithio gyda Phorthladd Aberdaugleddau ar ailddatblygu Porthladd Penfro, un o bileri eraill Ardal Forol Doc Penfro, a bydd y synergeddau hyn yn helpu gyda datblygiad y ddau brosiect.