Ynni Morol Cymru a META

Mae Ynni Morol Cymru wedi penodi cwmni cyfreithiol blaenllaw yn y DU, Burges Salmon LLP, i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer y prosiect Ardal Profi Ynni Morol (META) yn Nyfrffordd Aberdaugleddau.

Bydd Burges Salmon yn cefnogi tîm Ynni Morol Cymru ar ystod o faterion cyfreithiol megis contractau, rheoli prydlesi gwely’r môr Ystad y Goron, ceisiadau cyllido, gweithgaredd ymchwil a datblygu systemau a phrosesau META.

Mae gan Burges Salmon hanes hir o gynghori’r sectorau tonnau a llanw yn y DU ac mae wedi bod yn gysylltiedig â llawer o brosiectau ynni adnewyddadwy morol ac alltraeth ledled y wlad, gan gynnwys Wave Hub, Minesto a MeyGen. Yn dyddio o’r prosiectau a’r technolegau cynharaf mae Burges Salmon wedi bod ar flaen y gad wrth ddatblygu’r sector o’r safbwynt cyfreithiol, a lobïo’r Llywodraeth am gefnogaeth a chael gwared ar rwystrau i leoli.

Dywed Ross Fairley, Pennaeth Ynni Adnewyddadwy yn Burges Salmon: “Rydym yn falch iawn o weithio gydag Ynni Morol Cymru ar yr ychwanegiad pwysig hwn at seilwaith Ynni Morol Cymru.  Mae gan Ynni Morol Cymru dîm talentog o gynghorwyr eisoes ac rydym yn falch o fod yn dod â’n sgiliau cyfreithiol a’n harbenigedd sector i’r prosiect.”

Bydd META yn creu cyfres o fannau a gydsyniwyd ymlaen llaw, heb gysylltiad â’r grid, sy’n addas ar gyfer ystod o brofion cydrannau, is-osodiad a dyfeisiau ynni morol. Er y bydd angen i rai ardaloedd yn y prosiect fynd trwy broses gydsynio ffurfiol gan gynnwys cais AEA a Thrwydded Forol lawn i NRW, mae Ynni Morol Cymru yn anelu at sicrhau bod rhai ardaloedd ar gael ar gyfer rhai gweithgareddau profi eleni.

Cefnogir y prosiect £1.9 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ynghyd â Chronfa Cymunedau’r Arfordir a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.