Mae Canolfan Ynni Morol Ewrop (EMEC) Ltd a Wave Hub Ltd wedi llofnodi cytundeb gydag Ynni Morol Cymru i ddarparu cyngor strategol i ddatblygu’r prosiect Ardal Profi Ynni Morol (META) sydd ar y gweill yn Sir Benfro.
Rhyngddynt, mae gan y timau y tu ôl i’r canolfannau profi yn Orkney a Chernyw dros 20 mlynedd o brofiad yn datblygu a rheoli’r safleoedd, ynghyd â chefnogi cyfleusterau a datblygwyr ledled y byd. Bydd eu gwybodaeth am brydlesu, trwyddedu, gweithrediadau a gweithgareddau masnachol yn amhrisiadwy i dîm Ynni Morol Cymru wrth iddynt geisio sefydlu ardal brofi yn Nyfrffordd Aberdaugleddau.
Bydd META yn gweld creu cyfres o safleoedd a gydsyniwyd ymlaen llaw, nad ydynt yn gysylltiedig â’r grid sy’n addas ar gyfer ystod o brofion cydrannau, is-osodiad a dyfeisiau ynni morol. Nod y prosiect £1.9 miliwn, sy’n cael ei gefnogi gan gronfeydd Llywodraeth yr UE a Chymru, ynghyd â Chronfa Cymunedau’r Arfordir a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yw darparu cyfleuster profi mynediad hawdd i ddatblygwyr dyfeisiau cam cynnar i ddadrisgio lleoli yn y dyfodol a gostwng cost ynni.
Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau META, Joseph Kidd:
“Mae’r cytundeb hwn yn dangos bod y sector ynni morol yn gatalydd ar gyfer cydweithredu trawsffiniol cadarnhaol ledled y DU. Trwy weithio gyda’n gilydd a rhannu gwybodaeth rydym yn gobeithio creu prosiect a fydd yn darparu gwerth ychwanegol i rwydwaith canolfannau profi sefydledig blaenllaw’r DU. Rydym yn falch iawn o gael EMEC a Wave Hub Ltd gyda ni fel cynghorwyr strategol a byddwn yn elwa’n fawr o’u cyfoeth o brofiad.”
Ychwanegodd Oliver Wragg, Cyfarwyddwr Masnachol EMEC:
“Mae gan EMEC fwy na degawd o brofiad mewn dylunio, adeiladu a gweithredu ei gyfleusterau profi ynni morol. Mae’r gweithgaredd Ymchwil a Datblygu pwysig sydd wedi digwydd yn Orkney dros y blynyddoedd wedi creu hwb ledled y DU i arloesi yn y sector ynni morol. Rydym yn falch iawn o gydweithio ag Ynni Morol Cymru a Wave Hub ym mhrosiect META, gan rannu ein cyfoeth unigryw o wybodaeth a helpu i yrru’r diwydiant yn ei flaen, gan gefnogi datblygiad pellach o ynni adnewyddadwy.”
Dywedodd Claire Gibson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wave Hub:
“Rydym wedi gweithio’n agos gydag Ynni Morol Cymru ers blynyddoedd lawer ac rydym yn falch iawn o allu rhannu ein gwersi a ddysgwyd i hyrwyddo datblygiad META. Fel llesddeiliad gwely’r môr ar gyfer Parth Arddangos Sir Benfro, mae gan Wave Hub Ltd ddiddordeb gwirioneddol mewn sicrhau bod META yn llwyddiant gan ei fod yn cynnig lle hyblyg i ddatblygwyr technoleg gynnal eu profion cychwynnol cyn eu defnyddio ar raddfa yn y parth arddangos.”